Bethesda


Clogfaeni y Gorlan
Casgliad gwych o glogfeini ar wasgar ar lwyfandir cudd sydd ar frig llethr sgri serth sy’n rhedeg lawr at y ffordd yr A5. Mae’r prif glogfeini yn drawiadol iawn a hefyd mae nifer o broblemau ansawdd da ar y blociau ymylol llai.

Ogwen Bank
Mae’r ardal hon yn cynnwys dau leoliad micro lleoli uwchben ac o dan yr A5 yn agos Ogwen Bank ar gyrion Bethesda. O dan y ffordd ceir bwtres bychan o graig berffaith gyda chasgliad taclus o broblemau. Uwchben y ffordd mae hen chwarel gyda dewis da o broblemau, yn bennaf yn y graddau is.

Y Don
Mae llawer o goed conifferaidd ar ochr ddeheuol coedwig Braichmelyn. Mae’n ymddangos fel man annhebygol i ddod o hyd i graig bowldro, ac eto yng nghudd ymysg y pinwydd anferth ceir sgarp o graig folcanig. Mae llawer o’r sgarp yn doredig neu wedi ei orchuddio a gordyfiant, ond mewn rhai mannau y mae’n rhoi boldro da iawn.

Braichmelyn
Yn y rhan ogleddol, coedwig gollddail Braichmelyn cei’r cylchred bowldro da. Yn ganolog i’r gylchred yw’r Super Boulder godidog, ond tu hwnt iddo mae problemau rhagorol niferus yma ac acw yn y goedwig. Ar y cyfan, mae ansawdd y graig yn ardderchog ac yn gyffredinol mae’r mannau glanio yn dda.

Clogfeini Caseg
Ynghudd ar lannau Afon Caseg mae casgliad o fowldro rhagorol. Mae’r prif glogfaen Caseg yn dalp godidog o garreg ac yn safle gyda rhai o’r darnau prawf mwyaf enwog yng Ngogledd Cymru. Mae’r blociau eraill gyda phroblemau ganol gradd a gradd isel da. Mae’r graig yn wych ac yn gyffredinol mae’r glaniadau yn rhai da.