Carreg yr Ogof

image_pdfimage_print

garregyrogef1

Lleoliad hyfryd a heulog gyda chylchred gwych o broblemau. Mae Carreg yr Ogof yn cynnwys cyfres o sgarpiau bychain yn sefyll yn drefnus lechwedd y bryn uwchben glan dwyreiniol Llyn Trawsfynydd. Grutfaen Rhiniog yw’r graig, o’r un teulu a’r Penwynnion, ond o raen man. Mae’n bennaf o ansawdd rhagorol, ond weithiau byddwch yn dod ar draws crwst bregus. Mae’r glanfeydd yn eithaf creigiog ar y sgarp uchaf, ond ychydig mwy cyfeillgar yn ardal Wal Tandor i lawr wrth ochr y llyn.

Amodau: Mae’r graig yn gwynebu’r de-orllewin ac fel y cyfryw yn derbyn unrhyw heulwen sydd ar gael. Mae o hefyd yn agored ac yn dal y gwynt. Felly, mae’r graig yn sychu’n gyflym iawn, er y gall ardaloedd o gen aros yn llithrig ar ôl glaw – mae hyn yn tueddu i fod yn fwy o broblem ar y mannau glanio creigiog nac ar y problemau eu hunain, sydd yn bennaf yn lân iawn. Mae’r agwedd heulog yn fendith yn y gaeaf, ond gall wneud pethau yn rhy boeth yn ystod misoedd yr haf.

Mynediad: O’r eglwys fechan yng nghanol Trawsfynydd mae llwybr cyhoeddus yn arwain i’r dde ac yn mynd o gwmpas y tai, cyn croesi cae ac arwain allan ar draws ochr y bryn agored, uwchben y llyn. Er mwyn cyrraedd y brif ardal bowldero, ewch i’r chwith am riw 150m, gan gadw yn weddol agos at waliau’r caeau y tu cefn i’r pentref, a gobeithio y byddech yn cyrraedd pen deheuol y sgarp deniadol a farciwyd gan biler unigryw Blood Scream. I ddechrau gall y sgarpiau ymddangos yn ddryslyd, ond mewn amser mae pethau’n dod yn fwy amlwg, enwedig unwaith y byddwch wedi gwneud ychydig o deithiau archwiliadol – os oes unrhyw amheuaeth edrychwch ar y sgarp nesaf.

Ar yr ochr chwith (wynebu i mewn) i’r prif sgarp bowldero, ceir wal fach ddeniadol, lle da i ddechrau sesiwn.

Traws topo 1,2.CDR

1. 5A
Y nodwedd rhych llaw chwith – symudiadau anodd yn arwain at grafanc hwylus; llathennu i fyny o hwn at y brig.

2. 6A+
Dilead ‘dall’ sy’n ymosod y piler o graig rhwng Problem 1 a Phroblem 3. Mae’r grafanc bys ychydig i lawr ac i’r dde o’r ‘crafanc hwylus’ mawr ar Broblem 1 i mewn. Mae’r dechreuad o’r eistedd eofn (llaw chwith: ochdyn, llaw dde: crafanc isel ar waelod Problem 3) yn rhoi hwb yr anhawster sylweddol (6B+). [DOE: Sam Davis 23.11.14]

3. 4B
Problem gain gyda llawer gafael da y tu allan i’r hollt, os ddylech eu hangen.

10m i’r dde yn llinell tandor amlwg.

Traws topo 1,2.CDR

4. 5C/6A
O ddechreuad o’r eistedd dilyn yr hollt linell i fyny heibio’r chwydd at frigiad gwyrol.

8m ymhellach i’r dde eto ceir nodwedd ramp lletraws.

Traws topo 3, 4.CDR

5. 6A
Dechreuwch wrth eistedd yn isel ar y dde a symud i fyny i’r chwith i ddilyn y llinell ramp.

10m ymhellach gweler hollt trawiadol.

Traws topo 3, 4 V2.CDR

6. 4C
Problem dda sy’n symud i fyny heibio i glo perffaith – cywilydd am y glanfa.

7. 4B
Mae’r ffloch tandor crom yn dynodi llinell y broblem hon; byddwch yn ofalus gyda’r glanfa.

10m ymhellach i’r dde ar ran olaf y sgarp – yw’r man ble mae rhai o’r problemau gorau’r ardal.

Traws topo 5, 6.CDR

8. Addicted to the Shindig 6B+
Mae’r wal ar osgo a’r crib ar ben chwith y graig yn wych. O DOE (traed ar y bloc isaf ) pweru i fyny’r serthrwydd at y wefus ac yna gorffen i fyny i’r dde heibio’r bloc uchaf. Mae’r lletem clo ar grib yn ymddangos yn gadarn; wrth gwrs mae hi’n bosibl ddringo’r lein heb droi at grib o gwbl. Mae hon yn ychydig anoddach, ond os ydych yn wir eisiau i wthio’r radd fyny ( efallai i 7A ) yna ceisiwch ddileu’r bloc droed ar y dechrau. [Dyddiad Dafydd Davis 90au]

9. 4C
Sialens diddorol i fyny’r gornel amlwg.

10. Trawsnewid 6A
Mae’r wal donnog i’r dde mo’r gystal ag y mae’n ymddangos. Mae’n mynd o’r sefyll yn 5C , ond mae’r DOE yn llymach : cychwyn dwylo cyfatebol ar tandor o dan gorlech isel. Dringwch i fyny heibio nodwedd ramp bychan.

11. Isgoed 4C
Mae’r llinell hollt chinciog yn un cyfeillgar.

12. Blood Scream 6C!
Y crib trawiadol sy’n rhoi’r sialens glasurol o’r graig. Dringwch ef ar ei ochr chwith ac arbed ychydig o nerth (a dewrder) ar gyfer y fflop bol gwyrol ar y brig

Yn y bae y tu ôl i biler Blood Scream mae wal gyda chrib da arall.

13. 4C
Llinell gyson sy’n arwain i fyny’r nodwedd rhych bas a heibio ochr chwith y silff ar lethr

14. Ching Aling Aling 6C
Dilead sy’n dechrau o’r eistedd ac yn defnyddio’r ymyl gwyrol y rhych ar Broblem 13 ac unrhyw afael wyneb gallwch ddod o hyd, ond nid crib dde.

15. The Subtle Knife 5C
Y crib dde, i’w gymryd ar ei ochr chwith, problem dda.

Wal Tandor
I lawr yn agos at lan y llyn, tua 80m oddi wrth y ffermdy mae wal ddeniadol, mae to isel yn ei thandorri.

Traws topo 5, 6.CDR

16. 5A
Mae’r nodwedd rhych tor ar ochr chwith y wal yn un ddifyr.

Mae’n bosibl i orfodi dilead 6A i fyny’r wal rhwng y ddau hollt.

17. 5A
Mae’r wal wedi’i rannu gan linell hollt canolog – yn rhesymol o’r sefyll ond yn llawer mwy ystyfnig ac yn lletchwith os gymerwyd o’r eistedd (6A). Llawer gwell yw’r cysylltiad 6B i mewn i Dafydd’s Groove.

18. Dafydd’s Groove 5C/6A
Y nodwedd rhych bychan, bas ar y wal i’r dde o’r hollt canolog yn ardderchog o ddechrau stond. Mae’r dechreuad o’r eistedd 7A wrth ddefnyddio dewis o dandoriadau o dan y wefus neu’r ochdyn uwchben (neu yn wir, gyfuniad o’r ddau) – ymestyn hyd at y toriad gwyrol ac yna gwnewch drosglwyddiad caled i mewn i’r nodwedd rhych. [Dafydd Davis 90au]

19. Magnox Arête 6A
Mae crib dde’r wal yn profi i fod yn anoddach nag y gall ymddangosiad cyntaf awgrymu. Mae dechrau o’r eistedd yn cynyddu’r anhawster i 6B+. [Dafydd Davis 90au]

7m i’r dde mae mur arall, prisiau is ar ei ochr chwith.

20. Mr Stumpy 6B+
O ddechreuad o’r eistedd ar yr ochr chwith, gwnewch symudiad mawr i fyny at ymyl amlwg, cydrannwch a gorffen yn uniongyrchol. Mae’r silff droed isel yn yr alcof yn waharddedig. [Dafydd Davis 90au]

21. 4A
Llinell byr cyson.

I fyny i’r dde ceir hollt gordo gyda glaniad drwg. Mae’r problemau olaf i’w darganfod ar y bloc ychydig i’r dde.

Traws topo 7.CDR

22. Su’ mai Wa 6B+
O ddechreuad o’r eistedd dringwch ochr dde serth y crib, dilynwch y nodwedd letraws at orffeniad trawst. [Dafydd Davis 90au]

23. Joskin 6A
Dechreuwch ar ochr dde’r bloc gyda dwylo ar y sil uchel – taniwch i fyny i’r chwith a gorffen yn uniongyrchol.

Uwchben y Wal Tandor mae nifer o fân broblemau ar amrywiaeth o flociau, y gorau iw Scaramanga 5C, llinell dechrau o’r eistedd i fyny rhych serth ar yr ochr dde o’r bloc mwyaf a mwyaf serth. Mae yna hefyd llinell o’r eistedd 6B+ sy’n mynd i’r chwith ac wedyn yn syth drwy’r rhan fwyaf serth y bloc.

Yn ôl i fyny ar ben gogleddol y prif sgarpiau mae un darn o graig uwch sydd â rhai dringfeydd cofnodedig. Mae cwpl o linellau uchelgeilliol yma a fydd o ddiddordeb i’r rhai gyda dewrder. Mae nodwedd to amlwg yn gymwys fel problemau boldro, ond mae’r ddau yn gofyn am ddull cyson ar y gorffeniadau hawdd ond uchel iawn. Mae yna hefyd ychydig o broblemau gwerth chweil ar wal isel i’r dde a thu chefn y rhan uchaf o’r sgarp. Y llinell gorau yw Ermintrude 5C, sy’n cymryd crib amlwg ar ei ochr chwith i’r brigiad anodd.

Gadael Ymateb