Clogfaen mawr trawiadol gyda llawer o brofion serth a’r clasur This Way Inclined. Mae yna hefyd nifer o broblemau ardderchog o fewn ychydig o bellter. Mae hwn yn fan prydferth gydag awyrgylch wirioneddol heddychlon; a golygfa sydd hyd yn oed yn cynnwys golwg glir o’r môr ym Mae Ceredigion.
Rhyolit garw yw’r graig, fflochiog braidd mewn mannau ond yn gadarn ar y cyfan. Mae’r glaniadau yn gyfeillgar ac yn rhydd o unrhyw wlybaniaeth gormodol, ond gwyliwch am ddanadl poethion yn y mannau cysgodol yn yr haf.
Amodau: Lleoliad agored, heulog heb unrhyw broblemau tryddiferu. Mae’r sefyllfa agored yn sicrhau ei fod yn dal unrhyw wynt a allai godi. Felly craig sy’n sychu’n gyflym ac yn dioddef llai gyda gwybed yn yr haf nag y gellid disgwyl fel arfer, fodd bynnag, gall fod yn ofnadwy o oer i fyny yma yn y gaeaf.
Mynediad: Lleolir y man yma yn agos at Chwarel Manod uwch ffin dde-ddwyrain tref Blaenau Ffestiniog. Os ydych yn dod mewn car, parciwch yn synhwyrol, a chyda pharch i drigolion lleol, yn un o’r strydoedd ychydig oddi ar y brif ffordd yn yr ardal islaw Chwarel Manod. O gefn y tai dilynwch y llwybr i’r chwith heibio giât pum bar.
Gallwch weld y problemau cyntaf ar y clogfaen unigol yng nghanol y hen chwarel. Trowch i fyny yn union ar ôl y giât pum bar a cherddwch i fyny i gyrraedd y clogfaen sy’n cael ei guddio ychydig i’r dde o’r hen waliau y tŷ weindio.
1. Anweledig 7C
Mae’r nodwedd cribflaen ymwthiol yn rhoi her gymhleth ac anobeithiol bron, sy’n gofyn am symudiadau dyfeisgar a defnyddio gafael gwyrol gwych. Dechreuwch o’r eistedd. [Pete Robins 29.02.12]
2. Sex Bob-omb 7A+
Mae’r llinell yn amlwg ar yr ochr dde serth cribflaen Anweledig. Dechreuwch o’r eistedd gyda thraed ar y bloc isel, llaw chwith ar y tandor a’r dde ar binsied isel allan i’r dde. Mae gafael i fyny i’r dde ac ymyl gwyrol dwbl union uwchben y tandor yn caniatáu mynediad at y wefus wyrol a’r crafangau uchod. Mae gwahanol ddilyniannau yn bosib, gan gynnwys un sy’n cydrannu’r ymyl dwbl. [Jack Rattenbury 02.12]
Ewch yn ôl i’r trac a pharhewch i fyny nes iddo droi i mewn i inclein ysgafn hir sy’n rhedeg tua’r chwith i fyny ochr y bryn i’r chwith o Chwarel Manod. Yn union cyn i chi gyrraedd y pwynt lle mae’r ongl y llethr yn llorweddu, fe welwch wal ddeiniadol 40m allan i’r chwith, ychydig y ty hwnt.
3. 5A
Crib chwith y wal gul, serth a ddechreui’r o’r eistedd.
4. 6A
Mae crib dde y wal hefyd yn dechrau o’r eistedd.
Mae’n bosibl i ddringo dilead da i fyny’r wal rhwng y ddwy broblem.
Yn union ar ôl y pwynt lle mae’r ongl y llethr yn llorweddu dylech weld clogfaen hollt mawr tua 150m i ffwrdd yn groeslinol i’r chwith o’r llwybr. Croeswch y ffens ac ewch yn syth at glogfaen – dyma’r prif ddigwyddiad!
5. 5A
Dechreuad o’r eistedd sy’n cyrchu’r ochr chwith y wyneb byr serth. [Dafydd Davis 90au]
6. 5C
Gwnewch y newid o serth i lechog metr neu ddwy i’r dde o’r crib.
6a. Blaenau Nights 7B
Defnyddiwch grych amlwg ar gyfer y llaw dde, a gwneud slap enbyd at y wefys er mwyn trawstio i fyny ar y llech. [Chris Davies 2004]
7. Jack’s Sitter 6C
Dechrau o’r eistedd i lawr yn y gilfach (llaw dde tandorri’r twll, y chwith ar ddewis o afaelion), tynnwch i fyny at afael bys goleddf mewn hollt llorweddol a gwnewch slap bendant at grafanc dda. Gwnewch ychydig o symudiadau i fyny i’r chwith at y gafaelion amlwg a trosiglwch i fyny i’r llech. Mae cysylltu Jack’s Sitter i mewn i Tramwyiad Car Gwyllt yn rhoi 6C +. [Jack Rattenbury 02.12]
8. Tramwyiad Car Gwyllt 6B+
Dechreuwch o’r eistedd ychydig i’r dde o Jack’s Sitter; symudwch i fyny at y wefus a’i ddilyn i’r chwith ar amrywiaeth o afaelion diddorol i orffen fyny Problem 5. [Dafydd Davis 90au]
9. 5C
Cyrchwch y crib serth o ddechreuad o’r eistedd. [Dafydd Davis 90au]
10. Project
Llinell galed dull bord i fyny’r wyneb bach serth i’r chwith o Y Creigwr.
11. Y Creigwr 5C
Problem ardderchog i fyny ymyl dde o’r wyneb serth. Mae’r 7A slapiog o’r eistedd yn gracer hefyd. [Dafydd Davis 90au]
12. Inkerman 7A+!
Llinell uchelgeilliol trawiadol sy’n derbyn her y darian uchaf uwchben This Way Inclined. Mae’n uchel ond mae’r glaniad yn dda iawn. O waelod yr hollt tynnwch allan ar y wyneb serth a chysylltwch gyfres o afaelion hyd at big amlwg. Rhaid gwneud tyniad ymrwymol braidd ar ymyl gwastad braf er mwyn cyrraedd y crib uchaf a gorffeniad uchel. [Pete Robins 29.02.12]
12a. Balaclava 7B!
Yr allanfa chwith galetach a mwy beiddgar o’r gafaelion da ar Inkerman. Disgwyliwch cyfnod ychydig brawychus wrth i chi wneud y cyfnewid o amgylch y crib uchaf. [Pete Robins 29.02.12]
13. This Way Inclined 5C
Mae’r hollt lletraws serth yn galw – neidiwch ymlaen a blasu clasur y graig. Mae dechrau o’r eistedd yn rhoi hwb radd i 6A+. Bydd puryddion yn dechrau yng nghefn yr alcof dynn. [Dafydd Davis 90au]
14. Frizbee 7A+
Llinell bwerus a bysol sy’n ysgubo tua’r chwith ar draws y wyneb serth. Dechreuwch o’r eistedd fel Peniel Arête, ond siglwch i’r chwith ac ar y wyneb i ddilyn llinell y ramp bys i fyny a symud ar draws i’r chwith gydag anhawster cynyddol nes ei bod yn bosibl cyrraedd a gorffen fel This Way Inclined. [Pete Robins 29.02.12]
15. Peniel Arête 6A
Crib dde y wyneb serth. 6B dechrau o’r eistedd. [Dafydd Davis 90au]
16. 5C
Dringo crychiog yn syth i fyny’r fachell a’r llech. [Dafydd Davis 90au]
17. The Pengwndwn Shuffle 6C
Taith gwefus pwmpiog ar ochr cysgodol y clogfaen. Dechreuwch o’r eistedd ar y dde gyda chlo mwsoglyd cyfforddus ac olrhain y wefus i fyny i’r chwith, gan orffen mewn i ben Broblem 16.
18. 5C
Ar yr ochr llwybr y clogfaen cyfagos cei’r broblem wal daclus.
Crwydrwch drosodd i’r chwith 25m i ddod o hyd i.
19. 5C
Problem dda iawn i fyny’r crib; ond mae angen gofal gyda’r glaniad. Mae’r dechreuad isel 6A yn ychwanegu symudiadau cyfrwys.
20. 5C
Mae’r linell hollt amlwg yn dda iawn. [Dafydd Davis 90au]
Ychydig i fyny y tu ôl ceir wal uchel.
21. Plentyn Thatcher 5C!
Dringwch i fyny crib trawiadol, yna tramwyo oddi arno i’r dde ar hyd toriad er mwyn dringo i lawr, neu pwyswch ymlaen yn union, at bla o grug ac allanfa brawychus. [Dafydd Davis 90au]
Mae’r wal rhwng crib a’r hollt budr yn 6A.
Ar un tro roedd yr hollt budr yn cael ei ddringo, ond ers hynny mae wedi dychwelyd at natur. Cafodd cwpl o linellau uchelgeilliol eu gwneud yma hefyd i fyny’r wal i’r dde, ond mae’r rhain gyda’r un math o allanfeydd grugog brawychus a Phlentyn Thatcher.