Yn union uwchben canol tref Blaenau, ar ben llethr serth, ceir lleoliad boldro gwych. Mewn gwirionedd, dwy ardal fach wedi eu lleoli yn agos at ei gilydd. Mae’r waliau a gloddiwyd sef Y Sidings yn rhoi problemau fertigol gwych ar bocedi ac ymylon tenau. Mae’r glanfeydd yn dda, ond fel arfer ychydig yn wlyb felly mae padiau yn hanfodol i gadw traed yn sych.
Ychydig dros y cefn oddi wrth y man a gloddiwyd mae maes clogfaen Trefeini. Mae hyn yn ddrysni o flociau mawr sy’n eistedd ar lwyfandir corsiog gyda chreigiau llai o gwmpas. Mae’r problemau yn dra gwahanol oran cymeriad, ond yn gyffredinol yn fwy serth ac yn fwy pwerus. Mae rhai o’r llinellau yn wirioneddol glasurol ac mae potensial ar gyfer rhai anoddach cael eu datblygu. Mae’r ddau floc mawr ar ymyl chwith y cae clogfaen gyda glanfeydd da, fodd bynnag, o fewn y maes clogfaen mae pethau yn llai cyfeillgar. Argymhellir ymweliad tîm gyda llawer o badiau; byddwch yn ofalus os ydych ar ben eich hunan.
Mae’r graig yn gyffredinol o ansawdd da iawn, gan gynnig amrywiaeth eang o afaelion a llawer o bocedi.
Amodau: Mae’r man a chwarelwyd a’r clogfeini gydag agwedd heulog ac yn sychu’n weddol gyflym ar ôl glaw. Ond mae rhai o’r pocedi yn y clogfeini yn dal lleithder ar ôl glaw ac mae’r wynebau cysgodol yn llawn cen ac yn llaith. Mae’r llwyfandir yn agored i’r gwynt sy’n helpu i gadw lleithder gormodol draw. Yn anorfod ar nosweithiau haf mae gwybed yn ymgynnull i fwrlwm a gwledd ar ymwelwyr dynol.
Mynediad: O’r brif ffordd yng nghanol y dref trowch i fyny ger y siop Co-op a dilyn Stryd Dolgaregddu heibio’r orsaf heddlu. Trowch i’r chwith i Stryd yr Arglwydd a dilynwch hyn i fyny allt at giât. Mae rhywfaint o le parcio yn y man hwn, ond gofalwch eich bod yn peidio â blocio’r giât. Mae dau ddull posibl; yr un mwyaf serth a mwyaf uniongyrchol yw mynd i fyny ochr y bryn glaswelltog uwchben y man parcio ar y chwith, ac yna dilyn y llethr i fyny i’r dde at y toriadau a gloddiwyd sef y Sidings. Os ydych yn dewis y llwybr hirach, llai serth cerddwch i fyny’r llwybr y tu hwnt i’r giât ym mhen y ffordd nes i chi gyrraedd man gwastad. Ewch yn ôl i’r chwith ar hyd cefnen o rwbel llechi at faes clogfaen Trefeini sy’n dod i’r golwg ar y dde, tra gall y Sidings eu cyrraedd drwy gerdded yn syth ymlaen.
Yn agos at frig y llethr ar yr ochr bellaf ac i’r chwith o’r waliau a chwarelwyd mae ychydig o gribau trawiadol. Mae’r ddau sy’n syth ar y chwith yn uchel ac mae ganddynt glanfeydd gwael, fodd bynnag, mae un yn gymwys fel problem clogfaen.
1. 5C
Ôl-wthiwch hyd y crib i gyrraedd gafaelion da. Ni argymhellir mynd at y brig, felly dringo yn ôl i lawr neidiwch ar eich pad. Mae’n bosibl i orfodi llinell bysol ar y wal ar y dde, ond mae hyn yn brin o orffeniad diffiniedig.
2. 4C
Mae’r crib tandor ychydig bellter ar y dde o’r Broblem 1 yn anoddach nag y mae’n ymddangos. Gorffennwch ar y crafangau amlwg.
I lawr ac i’r dde o’r wal fawr mae crib bach sy’n rhoi problem hawdd iawn. Gall weld y llinellau pwysig nesaf ar yr ochr chwith y waliau a gloddiwyd.
3. 5A
Enillwch y rhych-v cwarts a brigwch yn uniongyrchol. Gall ychydig o linellau blêr cael ei dringo i’r chwith ond gwell osgoi’r sil rhydd amlwg.
8m i’r dde mae wal pocedi glân. Mae’r llinellau i gyd yn brigo ond mae’n llai o drafferth i groesi i’r dde ar y silffoedd crafangau a dringo i lawr / neidio oddi ar grib ar y dde.
4. Pigo Pocad Llaw Chwith 6A+
Dringwch yn syth i fyny’r wal a chymryd y boced lorweddol ar y wal uchaf gyda’ch llaw dde. 6B o’r cychwyn cwrcwd Pigo Pocad.
5. Pigo Pocad 6A+
Her gain gyda chraidd unigryw. Dringwch i fyny’r wal a chymryd y boced lorweddol ar y wal uchaf gyda’ch llaw chwith. Mae’r cychwyniad cwrcwd 6B yn un da.
6. 5A
Mae crib dde’r wal yn dda iawn; gorffen tua’r chwith i fyny’r silffoedd crafangol.
7. 6A+
Dechreuwch yn y ffloch ar y chwith a thramwyo i’r dde ar draws gwaelod y wal i orffen i fyny crib Broblem 6. Mae’r llinell yn llifo’n glws.
6m i’r dde mae mur arall glân.
8. 6A+
Darn prawf tenau. Dyfeisiwch eich ffordd i fyny’r wal, gan orffen tua’r dde at y sil crafangol. Mae’r cychwyn cwrcwd yn codi’r radd hyd at 6B.
9. Twll Haearn 6A
Symudwch i fyny heibio’r twll turio lletraws ac yna torri allan i’r chwith i gyrraedd yr un sil gorffenedig a Phroblem 8. Mae gorffeniad uwch yn bosibl mynd i fyny at y sil uchaf.
6m i’r dde mae yna gwpwl o fân broblemau ond gyda chraig amheuol braidd; mae 4C yn dringo’r golofn ychydig i’r chwith o gornel bach a 5A yn mynd yn lletraws i’r chwith ar hyd gwefus y serthni i’r dde o’r gornel. Nid ydynt yn brigo; gwrth ddringwch i lawr neu neidio (yn ofalus) i lawr o’r crafangau amlwg.
Trefeini
Yn unig ar y chwith ceir clogfaen wyneb serth.
10. 6B+
Tramwyiad amsugnol a pwmpiog ar hyd y wal serth; cychwyn yn isel ar y chwith a tramwyo i’r dde, yn codi i fyny ychydig i’r fflochiau da. Arhoswch ar y lefel hon, yna disgyn i lawr ychydig at yr adran craidd cyn gorffen allan i’r dde ar gafaelion da. Mae fersiwn haws a llai boddhaol yn symud i fyny at gafaelion da yn agos at frig y wal.
11. 6B
Y llinell DOE canolog ar y wal serth. Mae cwpl o symudiadau caled yn arwain i at ddringo haws; neu, cysylltwch i mewn i’r tramwyiad am her lymach.
Ar yr ochr chwith y prif faes clogfeini mae wyneb chwydd gyda gorlech llorweddol.
12. 4C
Crib chwith y wyneb. [Mel Griffith and Martin Crook 80au]
13. Pen Crwban 6B
I fyny drwy’r chwydd ac wedyn tueddu i’r chwith. [Mel Griffith and Martin Crook 80au]
14. 6C+
Mae’r llinell ganolog ar yr wyneb chwydd yn wych. Dechreuwch o’r sefyll i lawr i’r dde gyda llaw dde ar tandor deufys. Cyrraedd tandor deufys arall i fyny i’r chwith yn y gorlech, yna pweru i fyny drwy’r chwydd. Gorffennwch gyda chrafanc gwefus dda a gwingo drwy’r ‘mwstas’.
Gall dringo’r rhych ar yr ochr dde, ond mae’n ddiffygiol ddiffiniad ac mae ganddo lanfa ddrwg.
Ar ymyl y rhan ganol y maes clogfeini mae wyneb tandor deniadol.
15. Hogleuon Personol 6B+
Ar ôl cychwyn lletchwith symud i fyny heibio poced amlwg i orffeniad trawst.
16. 6B
Dechreuad o’r eistedd amlwg 4m i’r dde. Slap allan at y wefus wyrol, ail-addasu i boced ddefnyddiol, yna dringo i fyny a trosiglwch allan i’r dde ar y llech.
Uwch Hogleuon Personol mae llinell serth fychan sy’n dod i’r amlwg o bwll.
17. 6A+
Dechreuwch yn eistedd mor isel ag y gallwch a pwerwch i fyny.
Rownd i’r dde yng nghanol y maes clogfeini mae gordo grisiog mawr.
18. Lawr Coed 6A
Mae’ llinell dde’r gordo yn dda ond mae angen rhywfaint o ofal gyda’r glanio. Mae llinellau eraill yn bosibl i’r chwith, ond mae’r glanfeydd yn wael.
I’r dde mae’r ddau glogfaen mawr, serth yn rhoi problemau rhagorol.
19. Car Gwyllt 6C
Crib serth y clogfaen llaw chwith yn cael ei gymryd o gychwyn isel amlwg (llaw dde ar ochdyn/poced tandor). [Rich Betts 01.12]
20. Hollti a Naddu 7A+
Llinell fawr gyda dringo pwerus a pharhaus. Ardderchog! Dechreuwch o’r eistedd ar yr ochr dde y clogfaen mwyaf. Symudwch i fyny i’r chwith at afael da yna tynnu allan i’r chwith ar y wyneb uchaf. I fyny i’r chwith at bocedi (craidd) yna gorffen yn ôl i’r dde. 7A o’r sefyll. [Rich Betts 01.12]
Mae ochr chwith y maes clogfeini wedi ei ddominyddu gan garreg lechog enfawr. Ar ei ben uchaf y mae wyneb bychan serth.
21. 5C
Dringwch y crib serth ar yr ochr dde o ddechreuad o’r eistedd.
I lawr ym mhen isaf y clogfaen llechog enfawr, mae una un broblem arall gwerth chweil.
22. 5A
Ennill y ffloch swrth a dringo i fyny at y grug ar y brig; haws os fyddwch yn tueddu at y crib dde.